Cafwyd yr asesiad cynhwysfawr diwethaf o statws y 49 rhywogaeth o famaliaid a ganfyddir yng Nghymru yn 1995. Mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru yn crynhoi ein gwybodaeth bresennol, gan adrodd ar feintiau poblogaethau, gwasgariadau daearyddol, tueddiadau ac, ar gyfer rhywogaethau cynhenid, eu statws Rhestr Goch Ranbarthol yn ôl safonau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.
Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru – lawrlwythwch y pdf yma.
Byddem yn eich argymell i lawrlwytho’r pdf os yw’n bosibl. Fodd bynnag ceir nifer gyfyngedig o gopïau caled o’r cyhoeddiad i’r rhai sydd eu hangen. Er mwyn gofyn am gopi caled anfonwch e-bost i cyhoeddiadCMN@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
The status of the 49 mammal species found in Wales was last comprehensively assessed in 1995. Published in October 2020, The State of Mammals in Wales summarises our current knowledge, reporting population sizes, geographical ranges, trends and, for native species, their Regional Red List status according to International Union for the Conservation of Nature (IUCN) standards.
The State of Mammals in Wales – click here to download pdf
We would encourage you to download the pdf wherever possible, however, there are a limited number of hard copies of the publication for those who require one. To request a hard copy please email SoMiWpublication@naturalresourceswales.gov.uk
Ar hyn o bryd, mae nifer o gyfleoedd ar gyfer gwarchod mamaliaid yng Nghymru. Parhaodd Cymru i fod yn gadarnle ar gyfer y ffwlbart pan wnaeth bron â diflannu’n llwyr o weddill y DU, mae ymdrechion cyfredol i atgyfnerthu poblogaethau’r bele wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae Ynys Môn yn parhau i fod yn ardal allweddol ar gyfer gwiwerod coch. Ceir poblogaethau sylweddol o ystlumod pedol mwyaf ac ystlumod pedol lleiaf hefyd, gyda thystiolaeth o ledaeniad cynyddol tua’r gogledd, sydd o bosibl yn adlewyrchu amodau hinsoddol newidiol. Fodd bynnag, mae bywyd gwyllt yng Nghymru hefyd yn wynebu heriau o ganlyniad i anghenion poblogaethau dynol sy’n lledaenu, gofynion ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth, a phresenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol. Trwy gyfres o astudiaethau achos, mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru yn gosod asesiadau o gyflwr cadwraeth yn eu cyd-destun.
There are currently many opportunities for the conservation of mammals in Wales. The country remained a stronghold for polecats when they all but disappeared from the rest of the UK; current efforts to reinforce pine-marten populations have been extremely successful; and Anglesey retains a key area for red squirrels. There are also significant populations of greater and lesser horseshoe bats, with evidence of an increasing northward spread, possibly reflecting changing climatic conditions. However, wildlife in Wales also faces challenges from the needs of expanding human populations, requirements for agriculture and forestry, and the presence of invasive non-native species. Through a series of case studies, The State of Mammals in Wales places the assessments of conservation status in context.